hono. Dewiswyd ef i'r swydd o herwydd ei fod yn filwr profiadol, ond yn benaf ar y cyfrif ei fod yn flaidd rhyfygus o ddyn. Parodd y Cadben Olfer i ugain o'r gwyr fyned i fewn a rhyddhau Robert Brown.
"Yn y ddaeargell, o tan y ty, mae yn dra thebyg y cewch chwi ef yn dihoeni. Chwiliwch am dano, a mynwch ef, a lladdwch pwy bynag a geisio eich rhwystro, ninau a aroswn yma i'ch disgwyl."
Aethant yn mlaen, troisant ar eu chwith, goleuasant ganwyll, cymerasant y grisiau oedd yn arwain i'r seler, a dechreuasant chwilota yno am wrthddrych eu cais, ond nid oedd hanes mo hono yn unman—ni welent ddim ond gefynau gweigion.
"Ddaw'r rhai hyn yn wasanaethgar eto," ebynt, " i rwymo'r cythreuliaid, os deuwn o hyd iddynt, a chodasant yr offerynau caethiwed i'w cymeryd ymaith.
Gyda hyn dyma ddrws y ddaeargell yn cau yn glep, a'r gwellt yn ei ymyl yn ffaglu gan dân. Rhuthrasant at y drws gyda'r bwriad o'i falu'n ysgyrion, ond yr oedd mwg a nwy y gwellt yn eu tagu, ac yn eu gorfodi i gilio'n ol i ganol y ddaeargell, lle nad oedd yr awyr bellach nemawr burach, ac yn myned waethwaeth o hyd.
Yr oedd y cynhwrf oddiallan bellach mor fawr, fel na sylwai ac yn wir na chlywai yr un o'r pleidiau grochlesau y trueiniaid yn y ddaeargell tra yn mogi i farwolaeth. Ugain oedd eu rhif, a chollasant eu heinioes mewn brwydr heb graith nac archoll ar un o honynt. Parasai sydynrwydd Reinhallt a'i wyr gyffro ac annhrefn yn mhlith y Saeson, fel yn eu prysurdeb i ddodi eu rhengoedd mewn trefn yr anghofiasant wneud unrhyw ymdrech i waredu eu cymdeithion oddifewn. Dechreuwyd taro yn