Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ebrwydd; yr oedd pob plaid yn sychedu am waed, a gwaed ei wala a gafwyd yn cochi glaswellt y lawnt o flaen y palas, ac yn ceulo ar wyneb y llyn; canys yr oedd rhai o'r Saeson wedi cymeryd meddiant o'r pleser-fadau a rhwyfo ynddynt i ganol y llyn, er eu dyogelwch. a'r Cymry wedi nofio atynt, a gwaed lawer wedi ei dywallt ar wyneb y dwfr llonydd hwnw. Gan ei bod yn awr yn bur dywyll, y Cymry wrth wibio blith draphlith yn mysg y gelynion, a anafent eu gilydd yn fynych yn ddiarwybod; ac o ganlyniad, Reinhallt a roes orchymyn ar i'w ddynion adrodd yn ddibaid yr hen ddiareb, "Ni cheir y melys heb y chwerw;" a bu y cynllun yn foddion i atal yr amryfusedd rhagllaw. Ceisiai y Saeson eu dynwared, ond yr oedd y ddwy ch yn cyhuddo eu tafodau anystwyth. Barnai Sion Olfer oddiwrth arogl y gwellt llosgedig a gyrhaeddai ei ffroenau fod y palas ar dân, a bod yr ugein-wr yn rhostio ynddo, a galwodd am wneyd rhuthr egniol a'u mynu allan. Ond er ymdrech galed methwyd a chyrhaedd yr amcan—yr oedd y Cymry yn eu medi i lawr bob cynyg. Ymdrechwyd yn nesaf gael gafael ar y penaeth Cymreig ei hun, Sion Olfer a arweiniai yr ymosodiad yn bersonol. Troai Sion glamp o gleddyf hirlafn o gwmpas, gan regi a melltithio fod ei un fraich ef yn werth pedair braich wrth ysgwyddau unrhyw Gymro, ac anafodd amryw yn dost hefo'i ddull rhyfedd a mileinig o ymladd ysgubodd glust y Cadben Ifan yn lân oddiwrth ei ben. Yn wir yr oedd yn tori adwy effeithiol, a phob argoel y buasai ein harwr ac yntau yn ebrwydd mewn brwydr lawlaw, pan y sangodd Goronwy i'w ochr ac a roes iddo bigiad dwys â blaen ei ddagr yn ei ystlys. Sion Olfer a ebychodd yn herfeiddiol haner gwaedd haner och-