PENOD XIX.
TWR Bronwen, Caer Gollwyn, Castell Harddllechwedd neu Ailechwedd, Castell Harlech; gwahanol enwau a ddefnyddiai gwahanol oesau i ddynodi y lle. Arwydd o gymeriad bylchog yn yr oes hon ydyw mynych newid enw; yr oedd yn wahanol gynt, canys nid oes yn Nghymru gastell a fedd well cymeraidd castellaidd na Chastell Harlech. Y mae wedi ei adeiladu ar un o glogwyni geirwon Ardudwy, yn Meirion, ar lecyn a ddewisasid yn yr oes hon i godi goleudy arno yn hytrach na chastell. Saif ar graig sydd a'i throed yn y môr a ymdona dros Gantref y Gwaelod, ac ar fin Dyffryn Ardudwy, chwareufwrdd aml i ramant hud a lledrith yr hen Gymry. Codwyd yr adeilad y mae ei murddyn i'w gweled yn bresenol, ar adfeilion caerfa flaenorol, gan Iorwerth I., yn y 13eg ganrif—yr un pryd a chastellau Caernarfon, Conwy, Caerffili, &c, gyda'r amcan o gadw ciwdodau Seisnig yn nghanol y wlad; a gwneid y cyfryw gaerau yn breiffion a chedyrn, modd y parent ofn eu gorchfygwyr ar y brodorion. Wrth reswm eu creaduriaid eu hunain o'u cenedl eu hunain, a osodai y naill deyrn ar ol y llall yn geidwad y cadarnfeydd anorthrechol hyn. Gydag un eithriad, Seison a fuont yn gwnstabliaid Castell Harlech o 1284 hyd 1684, cyfnod o bedwar can' mlynedd. Yr eithriad hwnw ydoedd rhwng 1461 a 1468, a'r Cymro a lanwodd y swydd y cyfnod hwnw ydoedd Dafydd ab Einion o Faes y Neuadd, yn Nanmor, ger Beddgelert. Glewddyn pendefigaidd, gwladgar, o gorph hardd a meddwl penderfynol, oedd y Dafydd ab Einion, wedi gweled a chymeryd rhan mewn llawer brwydr waedlyd yn ei wlad ei hun, yn Lloegr, ac yn Ffrainc.