Neu os dewiswyd y safle gan bendefig a ystyriai ddyogelwch mewn oes gyffrous a pharth peryglus ar y wlad yn brif anhebgor dedwyddwch, ac y mae yn fwy na thebyg mai dyma'r ffaith, odid y cawsid haiach llecyn. Hyd o fewn ychydig ganrifoedd yn ol, yr oedd yn angenrheidiol i balas fod yn gastell; ac yn arbenig felly yn nghymdogaeth Clawdd Offa, lle nad oedd ond annhrefn gwladwriaethol yn ffynu, a'r unig lywodraeth yn gynwysedig o "Trechaf, treised." Ac yr oedd godreuon sir Fflint, yn ol tystiolaeth haneswyr Cymreig a Seisnig, yn hynod am eu haflywodraeth yn y bumthegfed ganrif. Rhyfyg a fuasai i foneddwr o gyfoeth fyw yn unlle namyn caer, castell, neu balas amddiffynol ac arfog yn cael ei amgylchu gan ei ddeiliaid (villains) hyfedrus ar dynu cledd a llawio bwa. Y mae yr hyn a erys o hen balas y Twr yn profi yn lled ddiamwys mai yn gartref amddiffynol i benaeth Cymreig ar y cyffiniau yr adeiladwyd ef ar y cyntaf. Y mae iddo ei bigdwr uchel ar lun clochdy, o ben pa un y gellir gweled yr holl wlad oddiamgylch, a gwylio symudiadau gelyn o ba gyfeiriad bynag y deuai. Y mae ganddo ei gelloedd tanddaearol cyfleus at gosbi troseddwyr, muriau llydain cedyrn, a llyn ar y lawnt o'i flaen, gwasanaethgar naill ai i ddiffodd tân a gyneuwyd gan elynion, i foddi y rhai oeddynt yn rhy ddrwg i'r ddaeargell, neu i nofio pleserfadau yn ystod heddwch yn y gadlys. A phe'r aethai yn galed ar y gwarchodlu, wele goedwigoedd cysgodol gerllaw, a nentydd llochesol tu cefn i hyny yn ymgolli mewn mynyddau anhygyrch; a gallasent encilio yn iach ddiangol, o fynydd i fynydd, ac o gwm i gwm, hyd yr Eryri. Ac onid oedd yr ardal yn cael ei britho yn mhob cyfeiriad gan lanerchau a barent gofio'r dyddiau gynt? ac a enynent wroldeb yn y galon
Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/9
Gwedd