Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn Lancastriad selog. Nid yw hanes yn dywedyd pa un ai ei osod yn gwnstabl Harlech a gafodd gan ei blaid ei hun, ynte cymeryd y swydd trwy drais a ddarfu iddo oddiary blaid wrthwynebol. Pa fodd bynag, trwy gadernid y gaer, a medr ei cheidwad, hi a heriodd alluoedd brenin Lloegr am saith mlynedd, a Harlech oedd y castell diweddaf yn y deyrnas a blygodd i awdurdod Iorwerth IV.

Yr oedd Dafydd ab Einion a Gruffydd ab Bleddyn o'r Twr yn gyfeillion mynwesol, os nad yn berthynasau pell; y gwr o Faes y Neuadd a wlychai wefus ac a geuai lygaid ei gyfaill pan y syrthiodd tan ei archoll farwol ar faes Blawrhith; ac efe yn unswydd a ddaeth â'r newydd galarus i Froncoed fod y fam yn weddw a'r plant yn amddifaid. Gydag anwyldeb tadol y cusanodd ac y cofleidiodd efe Wenllian, a breision y dagrau a dreiglent hyd ei ruddiau pan y sylwai ei bod yr un ffunud a'i diweddar fam; gyda hoffder cynhesol y cyfarchodd y plant eraill ac y cododd Reinhallt ar ei fraich gref, gan gysuro y weddw newydd trwy ddweyd y doi y rholyn hogyn braf hwnw yn fuan i lanw lle ei dad, yn filwr gwych o blaid y Lancastriaid, ac yn gysur i'w fam.

Erbyn 1465, yr oedd y bachgen braf wedi tyfu yn filwr enwog; a phan ddybenodd y gyfres o ysgarmesau a grybwyllasom eisoes yn ngodreu sir Flint ufuddhaodd ein harwr i wahoddiad taer hen gyfaill ei deulu, a throdd ei wyneb tuag Ardudwy, i ddilyn tueddfryd gynhwynol ei natur. Ymgynullasai lluaws o ddewrion Gwynedd a Phowys i amddiffyniad Harlech, ar egwyddor yr hen air, "Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle," ac yn eu plith yr oedd dau beth bynag o sir Flint, sef Reinhallt