Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ab Gruffydd a Sion Hanmer,[1] o Faelor Seisnig. Nid ymddengys i Harlech gael ei ddodi tan warchae rheolaidd hyd 1468; hyd hyny, gwneid defnydd o hono fel prif wersyllfa y Lancastriaid yn Ngwynedd, os nad yn Nghymru, yn lloches mewn caledi, ac yn fan encil yn ei thro i rai o benaethiaid y blaid hono. Er engraifft, bu Margaret o Anjou[2] yn ymnoddi yma am yspaid; ac oddi yma yr aeth hi mewn llong i'r Alban, lle y cynullodd fyddin gyda pha un y gorchfygodd ac y lladdodd Dug Yorc yn mrwydr Wakefield.

Chwareu ffristial a thawlbwrdd (tebyg i chess a quoits y dyddiau hyn), ymryson rhedeg a neidio ar draed (ac ar feirch os na fyddai gelynion oddiallan i'w lluddias), canu penillion gan dant a chyrdeddu cynghaneddion byrfyfyr, ymryson chwareu'r delyn ac anelu codwm bob yn ail, fel y profid cadernid y gewynau a thynerwch y cyffyrddiad, ydoedd eu di fyrion yn ystod oriau hamddenol y gadlys; ac yr oedd Reinhallt yn bencampwr yn mhob un o'r ymrysonfeydd hyn. Weithiau ymddifyrent trwy adrodd am y lluosocaf hen ddiarhebion Cymreig, neu traethent am y goreu chwedleu a rhamantau am rai o hen wroniaid y genedl, tra yr ymrysonent bryd arall mewn adrodd eu gorchestion personol eu hunain. Fel esiampl o'r olaf, y mae ar gof a chadw mewn amryw lawysgrifau y chwedl ganlynol. Cefnderw a gyfarfuasant mewn gwindy, lle yr aethant i draethu eu campau y naill i'r llall. Y cyntaf oedd Dafydd ab Siencyn ab Dafydd Drach o Nant Conwy (yr hwn a fu ar encil oddeutu Careg y Gwalch, ger Llanrwst,) a ddywedodd, 'Dyma'r

  1. Un o'r Hanmeriaid hyn oedd gwraig Owen Glyndwr,
  2. Gwraig ddewr y brenin anffodus Harri VI.