Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pedwar ddagr â'r hon y lleddais yr Ustus Coch ar y fainc yn Ninbych.' Yr ail, sef Dafydd ab Einion a ddywedodd, Dyma'r cleddyf a'r onen a'r hwn y lleddais y Siryf yn Llandrillo.' Y trydydd, sef Reinhallt ab Gruffydd ab Bleddyn o'r Twr, a ddywedodd, Dyma'r cortyn â pha un y crogais faer Caer pan ddaeth i losgi fy nhŷ.' Yna gofynasant i'r pedwerydd, yr hwn oedd wr heddychlawn, sef Gruffydd Fychan ab Ieuan ab Einion, pa orchest a wnathai ef? Yntau a ddywed, 'Dyma'r cleddyf pe tynaswn ef mewn anmharch, a wnaethwn gymaint â'r goreu un o honoch.'"

Nid annghofient ychwaith ystyried llwyddiant eu plaid, na moli gwroldeb y dynion dewr oedd tan ei baner. Er nad oedd y brenin ei hun wedi ei gyfaddasu i wisgo coron mewn oes mor derfysglyd, yr oedd ei frenhines yn arwres yn wir; ac am Siasper Tudur, Iarll Penfro, o ach a thras Tuduriaid Penmynydd, Mon, dyna wron! buasai unrhyw genedl dan haul yn falch o hono. O'r tu arall, llwyddiant byr oedd llwyddiant eu gelynion; tywyniad haul yn y cyfnos cyn myned yn llwyr tros os y gorwel. Mae yn wir fod Syr Gwilym Herbert, a Risiart ei frawd, yn ddynion dewr; ond fe ddeuai gwynt annghydfod yn fuan ac a'u chwythent drosodd atynt hwy. Ond pa beth bynag a ddeuai, ni welid baner y Rhosyn Gwyn, tra anadl yn eu ffroenau hwy, yn cyhwfanu ar Dwr Bronwen. Hwre i Gastell Harlech!