Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw rhyngddynt, a daeth pryd ymadael ar eu gwarthaf.

"Cyn yr elot," ebai Morfudd "ti a grybwyllaist am foddlonrwydd Gwenllian; boddlonrwydd Gwenllian ydyw un o'r breintiau uwchaf yn fy ngolwg; ond y mae dy galon bellach yn haeddu un o gyfrinachau fy mywyd—nid chwaer i mi yw Gwenllian—merch gyfreithlawn anrhydeddus ydyw i wron ucheldras, dewr,a gollodd ei mam hi pan y cafodd hithau; a'i thad a'i danfones, gan ei bod yr unig blentyn, yn ngofal mamaeth i fod tan arolygiaeth fy mam. Magwyd ni felly gyda'n gilydd fel brodyr a chwiorydd; yn wir byddaf yn meddwl fod Reinhallt yn anwylach o'i Wen nag o'i Forfudd; a bod yr anwyldeb hwnw ar gynydd, ond nid wyf fi eiddigus."

Synodd Goronwy yn aruthr, "a rhedodd ei feddwl at yr annhebygolrwydd teuluaidd oedd rhwng Gwenllian a'r gweddill o bobl y Twr. "Ond pwy yw y gwron dewr ucheldras, f'anwylyd?" ebai ef.

"Mi a ddywedaf yn ol llaw," ebai'r ddyweddi deg, "ond pwy debyget ti oedd y fammaeth a ddaeth yn wyryf ddiniwaid a Gwenllian yn ei ffedog yr holl ffordd ar farch o Faes y neuadd i'r Twr; ac a'i magodd yno am yspaid?"

"Nis gwn o holl ferched y byd," ebai Goronwy. "Sian Flintshire, druan dlawd, fel y llysenwid hi yn Nghaerlleon. Yr oedd hi y pryd hwnw, meddynt hwy, yn llances wledig, wridgoch, bropor, ddifeddwl; a phan ddaeth Gwen i redeg o gwmpas, aeth chwilen i glust Sian; ni wnai dim y tro ond cael myned i weini i Gaer, fel y gallai wisgo fel lady, a dysgu Saesneg; damweiniodd yno fyned