i wasanaeth rhiaint Robert Brown, a phriodas ddifodrus fu y canlyniad. Efallai nad yw'r hanes hwn yn gweddu i dafod merch?"
"Dos yn mlaen," ebai Goronwy, "i'r pur y mae pobpeth yn bur."
Aeth y rhian yn mlaen:—" Ai ei ladd ynte marw a ddarfu i'r plentyn cyntaf ni wyr neb ond Robert Brown a Sian, a'r Hwn a wyr bobpeth. Ganwyd ail a thrydydd, a diflanent o'r golwg. Ceir rhyw esboniad yn ngeiriau olaf y fam druenus wrth ddrws Broncoed y noson hono, 'Ionofal fach ydyw'r unig un o honynt sydd yn fyw. "
"Byw fyddo," ebai Goronwy.
"Byw fyddo," ebai Morfudd; a chan gyffwrdd min wrth fin ymadawsant.
PENOD ΧΧΙ.
YN Ebrill, 1468,[1] eisteddai Reinhallt a Sion Hanmer un hwyrnos ar ben TwrBronwen yn Nghastell Harlech, gan chwedleua am lechweddau gleision a bryniau esmwyth Powys, a gwylio'r haul yn myned tan ei gaerau i For y Werydd, pan y gwelent wr ar farch yn ymdaith tuag atynt o gyfeiriad Penrhyndeudraeth. Ac fel y dynesai, Reinhallt a adnabu y gwr, canys nid ydoedd neb amgen Robert Tudur o'r Twr. Prysurodd i'w gyfarfod at y porth, ac ar ol traethu ei syndod o weled ei urddas Bondigrybwyll mor bell oddicartref, rhoes y gwron hwnw lythyr yn ei law mewn dull tra seremoniol, tan
- ↑ Tua'r amser hwn y cyrhaeddodd Syr W. a Risiart Herbert, a llu mawr trwy ddirfawr anhawsderau, gerllaw'r Castell; ac wedi gwarchae caled, rhoddwyd yr amddiffyniadifynu Awst 14 o'r un flwyddyn.