obeithio ar yr un pryd fod ei feistr yn mwynhau' ei gynefinol iechyd "fel y mae'r geiriau hyn, wel tase, yn ein gadael ninau," a gofyn am ba hyd y cai efe aros yn y wlad ddyeithr hyfryd hono.
"Os na ddychweli oddiyma heno," Robin, ebai Reinhallt, "damwain fydd iti allu myned am rai misoedd. Y mae'r Herbartiaid ar eu ffordd yma o Ddinbych, ac yn ol a ddeallwn wedi cyrhaedd Drws Ardudwy; ac os na thorant eu gyddfau wrth godymu dros y creigiau, byddant yma cyn y gwel yr haul acw eto Gastell Harlech."
"Bondigrybwyll, ni symudaf," ebai Robin, "oni pheri di, Reinhallt."
"Gad fi'n llonydd, filain, i ddarllen y llythyr hwn." Darllenodd y llythyr. Cais ffurfiol ydoedd oddiwrth Oronwy am law Morfudd mewn glân briodas, ac fel y gallai ef fod yn bresenol i gyflwyno'r briodasferch ger bron yr allor, cynygid fod i'r ddefod gymeryd lle yn Llandderfel yn nyffryn Edeyrnion; y deuai y pâr ieuanc a Gwenllian yno i'w gyfarfod; ac os boddlawn ydoedd, a ddygei Robin ei ewyllys yn ol."
Chwarddodd yn galonog. "Dyma briodas yn y teulu o'r diwedd" ebai ef" Robin, rhaid i ti gymeryd ateb yn ol yn ebrwydd."
"O, meistr, meistr, oes dim modd i mi gael aros am ddiwrnod neu ddau?"
"Aros di," ebai Reinhallt, "y mae Sion Hanmer ar fedr gyru neges adref, hwyrach y ceir ganddo yr un pryd yru cenad i Froncoed, os rhoddi di dy farch iddo."
"Bondigrybwyll, o ewyllys calon. O'r ddau gwell a fyddai genyf fyn'd yn ol ar fy neudroed nag ar farch. Peth difrifol i barth gorllewinol dynsawd anghynefin ydyw marchogaeth tridiau,"