Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwir," ebai Reinhallt, tan wenu. Yr oedd negesydd Hanmer yn falch o'r swydd, Robin yn ddedwydd ar y drefn; ac ateb Reinhallt yn fuan ar ei daith i'r Twr.

Beth oedd yn y llythyr hwnw? Dim ond amlygiad o lawn gydsyniad ein harwr a'r cais; awgrym y deuai Hanmer, fe ddichon, gydag ef,—"Hanmer, y dewrddyn hynaws," ebai ef. Cyfeiriad neu ddau hefyd oedd yn y llythyr at ansefydlogrwydd pethau,—y byddai Castell Harlech yn fuan tan warchae, ond na fedrai dim ond angau ei luddias ef i fod yn Llandderfel yr amser penodedig yn rhoi ei chwaer mewn priodas i lanc yr oedd efe tan gymaint dyled iddo. Mewn olysgrif, dymunai yn chwareus ar i Wenllian ddod a gwisg priodferch gyda hi, rhag ofn i un o lanciau'r "wlad ucha'" ei phriodi hithau cyn y dychwelai.

Cyrhaeddodd y genad yn ddyogel i'r Twr, a mawr oedd llawenydd pawb ar ei derbyniad, heb eithrio hyd yn nod Sion, yr hwn a gredai ar amseroedd cyffredin fod gormod o filwyr o un eisoes yn nheulu'r Twr; ac am Landderfel y meddyliai ac yr ymddyddanai rhianod y Twr o hyny allan, am Landderfel y breuddwydiai Goronwy ddydd a nos, fel llecyn y sylweddolid gobeithion dysgleiriaf ei oes.

PENOD XXII.

FEL y rhagddywedasai Reinhallt, cododd yr haul dranoeth i ddyfodiad Robert Tudur, ac wele Gastell Harlech yn warchaedig gan lu mawr o Yorciaid tan gadlywyddiaeth Syr Gwilym Herbert. Ond yr oedd cryn bellder (i elyn) rhwng oddiallan ac oddifewn Castell Harlech. Codwyd y grogbont