Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a groesai'r ffos ddofn ar du dwyreiniol y gaer, gollyngwyd y ddringddor, ac yr oedd y gwarchaedig mor ddyogel a phe buasai eu gelynion fil o filltiroedd oddiwrthynt. Ni feddai yr oes hono yr un peiriant rhyfel ar ei helw allai ddryllio'r muriau cedyrn. Tra yr oedd y gwarchaewyr yn agored i ruthriadau sydyn, ac i aneliadau annisgwyliadwy eu gelynion, yr oedd y gwarchaedig mor ddyogel ag y dichon dynion fod yn ngwirionedd yr hen ddiareb "gair gwr o gastell." Ond aed ati yn union i geisio gwneud rhywbeth, canys nid gwr esgeulus o'i orchwyl oedd y Barwnig Herbert. Trefnwyd y llu yn gylch o gwmpas y gaer, heb annghofio yr ochr serth orllewinol, fel pe gallasai rhyw greadur ond perchen aden ddyfod yn fyw o'r lle y ffordd hono. Gwnaed arddangosiad aruthrol hefyd o allu ac o benderfyniad i newynu y fintai amddiffynol cyn y codid y gwarchae. Gyrodd Syr Gwilym genadwri at D. ab Einion, yn galw arno yn enw'r brenin roddi'r castell i fynu iddo ef. Y mae atebiad Dafydd yn un o frawddegau mwyaf poblogaidd hanesyddiaeth Gymreig. 'Dychwelwch a dywedwch wrth Syr Gwilym ddarfod imi warchae castell yn Ffrainc nes oedd holl hen wragedd Cymru yn son am hyny; ac yr amddiffynaf y castell hwn nes y bo holl hen wragedd Ffrainc yn son am hyn hefyd."

Elai y naill ddiwrnod ar ol y llall heibio heb i ddim o bwys ddigwydd. Gwylid holl fynedfeydd a dyfodfeydd y castell gyda'r dyfalwch mwyaf; ond yr oedd digon o fwyd oddifewn am rai misoedd, ac ni feddyliasai Gwilym, fel y darfu i'w frawd Risiart ar ol hyny, am droi oddiar ei gwely arferol