Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ffrwd ddwfr siriol a redai trwy'r castell i ddisychedu ei breswylwyr. Ac yn nghwrs amser, daeth yn bryd i Reinhallt hwylio at gyflawni ei adduned. Canmolai y llywydd yr egwyddor a gynhyrfai ei gyfaill i gyflawni addewid mor gysegredig; er yr ofnai fod yr antur o dori trwy rengau'r gelyn yn un beryglus, Reinhallt yntau ni fynai wrando am ei berygl ei hun; ofnai yn hytrach y byddai i'w fynediad ef ymaith wanychu'r amddiffyniad.

"Fy nghyfaill dewr," ebai Ab Einion, "na foed pryder genyt am hyny. Gallai Reinhallt neu D. ab Einion oddifewn i Harlech herio'r holl deyrnas oddiallan. Dymuna i'r par ieuanc fy nymuniadau goreu; a chofia fi yn garedig at fy angel gwarcheidiol Gwenllian."

"Heno am dani hi, ynte," ebai Reinhallt, "Ai gwiw genyt adael i'm cyfaill Sion Hanmer ddyfod gyda mi."

"Gwiw genyf; ewch eich deuoedd; a Duw'n rhwydd i chwi."

Yr oedd arwyddion trwy lumanau wedi eu dodi yn ystod y dydd ar un o'r pigdyrau am i gwch o'r fintai a nofient yn barhaus wyneb y dyfnder o flaen y castell i fod yn barod wrth y lan am wyth o'r gloch y nos hono. Felly, cychwynasant yn dri, sef Reinhallt, Hanmer, a Robin; a D. ab Einion yn eu hebrwng; i ddechreu i lawr i'r ddaeargell, a thrwy ogof gul drachefn am gryn ysbaid o ffordd nes y daethant at ddrws oedd yn agor i'r awyr agored. Dadgloasant hwnw yn arafaidd, ac wele codasai yn sydyn dymhestl fawr o fellt a tharanau. Argoelai hyn yn dda iddynt, ond yr oedd gan