Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob amser. Nid oes gan fy nhad gyfeillion—neb, o'r hyn lleiaf, fydd yn arfer galw i edrych amdano."

Siaradai Capten Gruffydd yn gyflym, fel pe'n ceisio dywedyd rhywbeth ar ei gyfer i droi'r stori. Yr oedd D'Alton yn hollol hunan-feddiannol drwy'r cwbl.

"'Rwyf yn sicr," meddai, wrth gerdded gyda'r Capten drwy'r drws mawr i hen neuadd dywyll y Plas, "fod eich tad yn falch o gwmpeini mab fel y chwi yn ei unigedd. Yr ydych yn gysur iddo yn ei hen ddyddiau."

Nid oedd Capten Gruffydd yn hoffi y dôn, ond nid oedd dim i'w wneuthur ond bodloni i'r geiriau yn ddistaw.

Goleuodd gannwyll, a gwelodd D'Alton eu bod yn sefyll yn neuadd fawr hen blasdy Cymreig gwledig. Yr oedd popeth ynddi yn henafol. Yr oedd y darluniau ar y mur, fel y distiau uwchben, yn ddu gan oedran. Yn ei ymyl yr oedd y lle tân—tân ar lawr yn ol yr hen ddull, a simddai fawr agored. Clywai sŵn y gwynt yn y corn.

Nid oedd y gannwyll a oleuodd Capten Gruffydd yn hanner goleuo y lle. Yr oedd cysgodion tywyll ym mhob man, ac nid oedd modd gweld ffordd allan o'r neuadd. Yn unig gwelid grisiau llydan yn cychwyn yn un lle ar gyfer y drws, ond buan iawn yr oedd y rhai hyn hefyd yn ymgolli yn y tywyllwch.

Ond yr oedd Capten Gruffydd gartref. Agorodd ddrws, ac aeth a'r Ffrancwr i mewn i ystafell arall,