Yr un cwestiwn o hyd.
"Y mae wedi ei wedi ei lofruddio," ebe Capten Gruffydd.
Yr oedd cwestiwn nesaf D'Alton yn un rhyfedd. "Gennych chwi?" meddai.
Neidiodd Capten Gruffydd ar ei draed. "Pwy sy'n meiddio deyd peth fel yna?" meddai, gan geisio bod yn ffyrnig. "Pwy sy'n meiddio fy ngalw i yn llofrudd?
"Neb, hyd yn hyn," ebe D'Alton. "Peidiwch a cholli eich tymer, fy nghyfaill. Eisteddwch i lawr ar unwaith, a dywedwch yr hanes."
Rhoddodd Capten Gruffydd ochenaid drom, ac eisteddodd i lawr. Yna, mewn llais isel, dechreuodd lunio stori am farwolaeth Carrier. Gosododd yr holl fai, wrth reswm, ar Huw Anwyl. Dywedodd fod Carrier wedi cyfarfod Huw pan oedd hwnnw yn dychwel o'r traeth; fod Huw wedi meddwl mai un o'r swyddogion oedd, ac, hyd y gwyddai neb, wedi ei ladd yn y fan.
"Chwilio am y llofrudd yr oeddwn heno, pan gyfarfuasom," meddai Capten Gruffydd, yn dechreu sirioli tipyn wrth weld D'Alton yn gwrando mor ddistaw, "ac yr ydym yn sicr o'i gael un o'r dyddiau nesaf yma."
"Felly," meddai'r Ffrancwr, ac nid oedd modd gwybod beth oedd ei syniad am y stori. "A dyna ddiwedd Carrier druan! Un o filwyr dewraf y fyddin