welyau a welir mewn ambell i fan hyd heddyw. Trwm, garw, a henafol oedd yr holl ddodrefn hefyd, ond sylwodd D'Alton gyda boddhad fod un o'r cistiau derw trymion yn symudadwy ac heb fod ymhell oddiwrth y drws.
Pan welodd hynny dechreuodd ei symud yn araf ac yn ofalus i gyfeiriad y drws. Gofalai, hyd y medrai, rhag gwneuthur sŵn. Yr oedd yr hen gist yn dderw drwyddi, ac yn drom iawn, ond yr oedd y Ffrancwr yn ddyn cydnerth, a llwyddodd, wedi chwysu dipyn, i'w gosod yn erbyn y drws fel na ellid agor hwnnw.
"Dyna!" ebe D'Alton. "Digon o waith i neb ddyfod i mewn y ffordd yna beth bynnag. Ond feallai fod yma ryw gilfach arall yn yr hen lofft yma."
Edrychodd y muriau yn ofalus. Yr oedd yr oll yn baneli derw, gyda darlun henafol yma ac acw, ond nid oedd arwydd yn unman fod yr un ffordd i ddyfod i mewn. Yna edrychodd y ffenestr. Yr oedd honno yn y mur pellaf oddiwrth y gwely. Cafodd fod dau far haearn cryf yn ei chroesi, ac yr oedd mor dywyll, fel nad oedd modd gweld dim allan.
Yna, ac yn olaf, trôdd ei sylw at y lle tân. Nid yn aml y ceid lle tân tebyg iddo hyd yn oed yn y plasau Cymreig yr adeg honno. Yr oedd gwaith plaster addurnedig uwch ben y silff, ac o amgylch hwnnw ym mhob man yr oedd y paneli derw.