chwerthiniad annaearol, yn gymysg â rhyw sŵn disynnwyr yn ei glust.
Yr oedd y Ffrancwr, fel y dywedwyd, yn ddyn cryf, wedi caledu drwy lawer ymdrech galed a brwydr boeth. Pan deimlodd y breichiau yn gafael amdano gwnaeth ei oreu i ledu ei freichiau ei hun, er mwyn torri yr afael haearnaidd, ond er ei holl nerth methodd a'i datod.
Yna dechreuodd brwydr chwyrn a ffyrnig yn y tywyllwch. Yr oedd D'Alton yn gwingo ac yn ymdrechu dyfod yn rhydd, a'r clwm haearnaidd amdano fel pe'n tynhau o hyd nes gwasgu yr anadl allan o'i gorff. Ceisiodd y Ffrancwr gicio'n ol, ond yn ofer, canys nid oedd y creadur a afaelodd ynddo fel pe'n teimlo ei draed. Yna ceisiodd lithro drwy ei freichiau, ond methiant oedd hynny drachefn, canys yr oedd yr afael cyn dynned amdano fel na fedrai yn ei fyw. Ni fedrai weiddi chwaith, canys yr oedd ei wynt yn fyr, a theimlai ei hun yn gwanhau yn brysur yn y wasgfa ofnadwy. Daeth niwl coch o flaen ei lygaid; teimlai ei nerth a'i ymwybyddiaeth yn pallu; y peth olaf a glywodd oedd rhyw hanner chwerthiniad, hanner ebwch gwallgof gan y creadur oedd y tu ol iddo, ac yna suddodd D'Alton i'r llawr, yn swp diymadferth. Ac yna, ac nid cynt, y llaciodd gafael ofnadwy y breichiau. ****