Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu distawrwydd am ennyd, ac yna daeth goleuni o rywle. Yr oedd yr hyn a ofnodd D'Alton wedi digwydd, canys daeth Capten Gruffydd i mewn i'r ystafell drwy dwll yn y mur a wnaed drwy i un o'r paneli derw lithro yn ol. Yr oedd gan y Capten lanter yn ei law.

Daeth ymlaen hyd at ochr y gwely. Disgynnai y goleuni ar y Ffrancwr yn gorwedd yn swp diymwybod ar lawr, ac ar y dyn a'i gwnaeth felly. Penliniai hwnnw yn ymyl D'Alton, a'i ddwy law fel pe'n barod i orffen y gwaith a ddechreuodd, ond pan ddywedodd Capten Gruffydd,—" Dyna ddigon, Wil, saf draw," cododd, gan fwmian wrtho ei hun, a chiliodd at y gwely.

Yr oedd un olwg ar y truan yn ddigon i ddangos y fath un ydoedd. Un o'r creaduriaid lloerig hynny oedd yn weddol gyffredin yng Nghymru unwaith â'r bwystfil yn gryfach o lawer ynddynt na'r dyn oedd Wil. Ni siaradodd air croyw erioed, ac nid oedd yn gymwys i fod yn agos at ddynion. Eto, lled-ddeallai yr hyn a ddywedid wrtho, ac yr oedd yn ofni Capten Gruffydd fel yr ofna ci ei feistr. Nid oedd neb ond y Capten yn gwybod, neu wedi sylweddoli, beth bynnag, fod ffyrnigrwydd peryglus yn natur y truan, a bod yr agwedd honno yn datblygu ynddo yn brysur. Deallodd y Capten hynny, modd bynnag, a manteisiodd ar hynny ac ar ei feistrolaeth ef ei hun arno y noswaith hon.