Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhwng Rhyfeloedd.

PENNOD I.
AR LAN Y MOR.

WYNEBAI ardal Llanwennol ar y môr, ond yr oedd y mynyddoedd o'r tu ol iddi. Rhwng y pentref a'r mynyddoedd yr oedd llain o wlad amaethyddol brydferth gyda chryn lawer o goed yn tyfu yma ac acw, ac mewn rhai mannau hyd at droed y mynydd. Ond y môr ac nid y mynydd oedd bywyd y pentref i raddau pell iawn, yn enwedig adeg yr "Heddwch Bach," pan ddigwyddodd y pethau a adroddir yn y stori hon, yr egwyl honno a ddaeth ar Ewrob rhwng yr amser yr anfonwyd Napoleon i Elba a'r amser y dychwelodd i wynebu ar Waterloo. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng trigolion amaethdir Llanwennol a thrigolion y pentref a'i amgylchoedd. Y wlad a'r mynydd oedd byd a chyfoeth y blaenaf; y môr a'r hyn oedd ynddo ac arno—yn enwedig arno—oedd byd a chyfoeth y lleill. Pysgotent, ond pe buasent yn cyfyngu eu sylw i bysgota yn unig, ni buasai gan neb fawr wrthwynebiad i'w dull o fyw. Ond dywedid gan lawer fod aml i lwyth llong yn dyfod i Lanwennol na thalodd erioed ddimai o doll i'r brenin. Dywedid fod teuluoedd