anghyfleus iawn i'r sawl a'u hysgrifenno weithiau, wyddoch."
Yr oedd yn amlwg fod hyn wedi cyffwrdd Capten Gruffydd i'r byw.
"Lle mae'r llythyrau?" gofynnai yn floesg.
"'Roeddwn yn meddwl mai dyna eich hamcan," meddai'r Ffrancwr. "Lladdasoch Carrier gan feddwl eu bod ganddo. Siomwyd chwi, a cheisiasoch daflu'r bai ar longwr ieuanc oedd eisoes dan erledigaeth gennych am eich bod yn chwennych ei gariad."
"Sut y gwyddoch chwi hynny?" ebe Capten Gruffydd.
"Na hidiwch ar hyn o bryd. Gwn gryn lawer o bethau, fy nghyfaill. Yn awr y mae'n debyg eich bod yn meddwl gwneud yr un peth â mi ag a wnaethoch â Carrier, ond dylech wybod erbyn hyn fod y llythyrau yn eithaf diogel."
"Gwn nad ydynt gennych chwi," meddai Capten Gruffydd, "ond gwn hefyd eich bod yn gwybod pa le y maent. Ac yr wyf am i chwi ddweyd wrthyf."
"O, felly."
"Ie, felly! Os na ddywedwch, fe ddigwydd yr un peth i chwi ag a ddigwyddodd i'r ffŵl arall. Y mae yma le mwy cyfleus; nid oes neb yn gwybod eich bod yma. Ni ŵyr neb eich colli. Ni waeth gennyf gyfaddef na pheidio bellach mai myfi a laddodd Carrier, ac y mae'n dda gennyf fy mod wedi gwneud. Y