mae'r creadur a gafodd y bai wedi mynd yn ddigon pell—wedi ffoi o'r wlad, fel y mae gwaetha'r modd, onide buaswn wedi ei grogi. Yn awr, os ydych am gael eich bywyd, dywedwch wrthyf i ble i anfon am y llythyrau."
Ystyriodd D'Alton am funud, ac yna gofynnodd,—Ac wedi i chwi eu cael—beth wedyn?
"Cewch fynd adref i Ffrainc, a gwynt teg ar eich hol."
"Pa sicrwydd sydd gennyf am hynny?"
"Ond yr wyf i yn dweyd wrthych.".
"Pah! Eich gair chwi!" ebe D'Alton yn ddiystyrllyd. Beth yw gwerth hwnnw, fradwr llofrudd?"
Am foment aeth y ffyrnigrwydd oedd yn llosgi ynddo er y dechreu yn drech na'r Ffrancwr, a mynegodd ei deimlad. Ond nid oedd y geiriau cignoeth a ddefnyddiodd yn peri i'r Capten golli golwg ar ei nôd. Cochodd ei wyneb, y mae'n wir, ond yr oedd ganddo ar y pryd lywodraeth lled lwyr arno ei hun.
"Cymerwch ofal," meddai. "Peidiwch rhoddi gormod o brawf ar fy amynedd. "Gwaith hawdd fuasai eich saethu yma."
"Nid oes berygl yn y byd i chwi fy saethu," meddai D'Alton, " hyd nes—ond gwyddoch beth yw fy mwriad