"Aderyn trwm iawn, i wneud y fath sŵn ym mrigau'r goeden," meddai D'Alton, a rhoddodd ddau gam, nes gosod ei hun rhwng Capten Gruffydd a'r ffenestr agored. Gwelodd y Capten,—neu tybiodd ei fod yn gweld ei fwriad, a thrôdd i gymryd ei bistol oddiar y bwrdd. Gwelwodd ei wyneb pan welodd nad oedd y pistol yno.
Na," meddai D'Alton, gyda gwên; "buoch dipyn yn esgeulus, fy nghyfaill. Funud yn ol, gennych chwi yr oedd y llaw uchaf; yn awr, y mae gennyf i. Bu'n rhaid i mi wrando arnoch chwi. Eithaf peth, bellach, fydd i chwithau wrando tipyn arnaf finnau." Dangosodd ei bistol a chyfeiriodd ef at y milwr. Tynnodd Capten Gruffydd yn ol, ac aeth ei wyneb yn wynnach nag erioed, canys ni hoffai berygl.
"Na," meddai D'Alton, fel pe'n darllen ei feddwl, "nid wyf am eich saethu ar hyn o bryd, er mai dyna yw eich haeddiant. Rhaid i mi gael amser i ystyried. Eisteddwch i lawr ar y gadair yna."
Eisteddodd Capten Gruffydd. Nid oedd dim arall iddo ei wneuthur.
"Yn awr," meddai D'Alton, fel dyn yn siarad wrtho ei hun, "y mae'n anodd gwybod beth i'w wneud â'r dyn hwn. Y mae wedi lladd fy nghyfaill Carrier, ac felly y mae'n haeddu marw ar fy llaw i. Y mae wedi bradychu, neu wedi cynnyg bradychu, ei wlad, ac y mae'n haeddu marwolaeth ar law swyddogion ei wlad ei hun. Ar y llaw arall, y mae arnaf