Ambros oedd bob amser mor dawel ac fel pe'n tosturio wrth bobl eraill pan ddangosent deimlad. Ond yn awr yr oedd ef wedi ei gynhyrfu hyd yr eithaf. Edrychai fel pe'r hoffai ladd y dyn a eisteddai o'i flaen. Yr oedd fflam ei ddigofaint yn deifio Capten Gruffydd, ac ni atebodd yr un gair iddo. Yr oedd D'Alton hefyd, er na ddeallai yr un gair, yn gweld fod rhywbeth rhyfedd rhwng Ambros a'r Capten.
"Yn awr," meddai Ambros, ei lais yn tawelu ychydig, "fe ddaeth dydd y cyfrif. Lleddaist Carrier, a cheisiaist osod y bai ar ysgwyddau yr hogyn yma. Ceisiaist wneud yr un peth â'i gariad ac a wnest â— rhywun arall. Y mae'n debyg y buaset wedi llwyddo i erlid Huw Anwyl o'r wlad am byth onibai i mi ddigwydd taro arno. Yn awr, y chdi sydd i fynd."
"Sut hynny?" Sibrydai Capten Gruffydd y geiriau.
Am fod rhaid yn dy anfon. Rhaid iti ysgrifennu papur yn cyfaddef mai tydi a laddodd Carrier, a bod Huw Anwyl yn hollol lân oddiwrth y cwbl. Nid wyf am iti ddifetha dau fywyd eto."
"Beth os na wnaf?"
"Yna," meddai John Ambros, yn araf, 'fe'th grogir am fater arall." Rhoddodd ei law yn ei boced a thynnodd ddau neu dri o bapurau allan. Edrychodd pawb arno yn bryderus.