arno a cheisiodd ei dagu. Rhuthrodd Huw a D'Alton ymlaen i wahanu'r ddau, ond nid oedd angen eu cymorth Yr oedd Ambros yn llawer cryfach dyn na'r Capten, er ei fod yn fyrrach, a thaflodd ef ymaith ar ol ymdrechfa fer iawn. Taflodd ef oddiwrtho gyda'r fath rym nes disgyn o'r milwr yn swp yn ymyl y ffenestr. Torrodd allan i feichio crio fel plentyn wedi cael curfa, ac yr oedd yr olwg ar ddyn fel efe yn y safle honno yn un ofnadwy—ei hunan-barch a'i hunan-feddiant wedi mynd, a rhwng ei ocheneidiau dywedai rywbeth mewn geiriau drylliog am Ei enw a'i bopeth wedi eu cymryd oddiarno." Nid oedd fel pe'n cofio fod yno neb ond efe ei hun. Edrychodd y tri ar yr olygfa drist ac arswydus am funud, ac yna trôdd John Ambros ei gefn arno, gan ddywedyd, "Gadewch iddo, fe ddaw ato ei hun yn union."
"Beth am y llythyr yna? Ple cawsoch chwi ef, Ambros?" meddai D'Alton. "Y mae'r cwbl yn ddirgelwch mawr i mi."
"Ydyw, y mae'n debyg," ebe Ambros. "Ac nid oes gennyf amser i esbonio'r peth i chwi yn awr, Fe dyr y wawr yn union, ac y mae gennym waith i'w wneud eto."
"Ond beth a wnaf fi?" meddai D'Alton, dipyn yn ddigllon. "Nid yw fy rhyddid, na'm bywyd efallai, yn werth dim os gwelir fi yma ar ol hyn. A sut