Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr wyf i orffen fy neges efo'r creadur yna? mae eisoes wedi cael mwy na hanner yr arian."

"Nid yw eich neges yn ddim i mi," meddai Ambros yn.ddidaro ddigon, "ond os ydych am ddychwelyd i Ffrainc bydd y scwner at eich gwasanaeth yn y prynhawn. Yr wyf fi yn mynd yno. A chyda llaw, beth pe deuech a'r Capten gyda chwi? Nid wyf yn hoffi ei gwmni—helo! dyna fo wedi mynd!"

Yr oedd hynny yn wir. Tra bu'r tri yn siarad, gan droi eu cefnau ar y ffenestr, gwelodd y Capten ei gyfle. Gyda chyfrwystra gwallgofddyn—nid oedd yn awr fawr gwell na hynny—ymgododd yn araf nes medru cael ei draed dros y ffenestr, ac yna gollyngodd ei hun i lawr. Disgynnodd yn ysgafn, a'i sŵn yn disgyn a dynnodd sylw Ambros.

"Ar ei ol!" meddai'r llongwr yn gynhyrfus, "Does wybod beth a wna os gadawn iddo ddianc. Y mae'n rhaid i ni ei ddal."

Ambros ei hun oedd y cyntaf i fynd trwy'r ffenestr Ar ei ol aeth Huw, ac ar ei ol yntau D'Alton, canys gwyddai'r Ffrancwr nad oedd ddiogelwch iddo ef yn awr ond trwy gadw gyda John Ambros. Wedi eu cael eu hunain ymhlith y coed gwrandawsant am ennyd, ac yna clywsant sŵn oedd yn profi nad oedd y ffoadur eto ymhell iawn.

Yna dechreuodd ymlid hir ac ystyfnig yn y tywyllwch. Arweiniai Ambros, a gwelai Huw ei fod