ym myddin y brenin, yn rhoddi cryn lawer o awdurdod iddo yn ei ardal enedigol, ac yr oedd yntau yn barod i gymryd yr holl awdurdod hwnnw, a mwy hefyd. Dywedai y trigolion amdano fod yr hen ŵr ei dad yn gledryn, ond fod John Gruffydd yn gledryn ac yn oferddyn cyfuniad sy'n gwneuthur y dyn salaf a ellir ei gael ar wyneb daear Duw.
Edrychai yn sarrug ac annymunol ar Cooke a Watson yn awr.
"Pam nad agorasech y drws ynghynt?" meddai, —yn Saesneg wrth gwrs. Saeson oedd y swyddogion, ac yr oedd yntau yn hanner Sais, a dywedyd y goreu amdano.
'Am fod gennym waith pwysig ar dro," meddai Cooke, yn edrych lawn mor sarrug ag yntau, "ac nid ydym am beryglu'r llwyddiant i agor y drws i bawb a ddigwydd guro."
"Felly," meddai'r capten, "yr ydych yn meddwl dal y giwaid smyglars y felltith yma heno?"
"Yr ydwyf yn sicr o'u dal," meddai Cooke yn ffrostgar. "Y mae pob enaid byw ohonynt yn meddwl fy mod i a'm dynion yn Rhos y Môr, ac y maent am ddadlwytho scwner Jac Crystal heno. Mi daliwn nhw bob un."
"O'r goreu," meddai'r Capten, yn awdurdodol, deuaf gyda chwi. Rhwng smyglars a Methodyddion a phobl yn gwrthod ymuno â'r fyddin, y mae'r wlad