lleied o helynt ag sydd bosibl. Swyddog y llywodraeth ydwyf i, a'm dyletswydd i ydyw dal pawb sy'n torri'r gyfraith y gosodwyd fi i'w gwylio yma, ond 'does gen i ddim gelyniaeth bersonol tuag at y dynion, ac nid wyf am saethu os medraf beidio. 'Dwn i ddim a oes gennych chi rywbeth yn erbyn Alun Tomos ai peidio."
Taniodd llygaid Capten Gruffydd, a rhoddodd Watson, a safai o'r tu ol iddo, winc ar Cooke. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi cyffwrdd rhyw fan gwan.
"Beth sydd gennyf i yn erbyn dyn o'r dosbarth yna?" gofynnai'r capten.
"'Dwn i ddim," atebai Cooke, "dim o gwbl, serch dim a wn i, ond os ydych am ddyfod heno, y mae'n rhaid i chi addo peidio saethu. Fy ngwaith i ydyw saethu, os bydd raid."
Edrychodd y capten fel pe am ateb yn ffyrnig, ond newidiodd ei feddwl cyn siarad.
"O'r goreu," meddai, yn ddigon sarrug, "ond yr wyf am ddyfod gyda chi."
"Fel a fynnoch chi am hynny," meddai Cooke, ac yna dywedodd wrth Watson,—"Edrych a ydyw Tomos yn dangos arwydd i'w ddynion. Os bydd yn credu fod y ffordd yn glir, dengys oleu deirgwaith wrth ddrws ei dŷ, ar ben y clogwyn."
Aeth Watson at y drws, ac agorodd ef yn ofalus iawn. Yr oedd yn dywyll fel y fagddu, ac yr oedd