Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

clogwyn. Aeth ef oddiwrthynt i chwilio am ei ddynion yn eu lloches, a phan ddychwelodd drachefn dywedodd fod popeth yn iawn.

"Dacw oleu'r llong," meddai, gan gyfeirio at oleuni bychan a welid weithiau draw i'r môr. "Y mae Tomos a'i griw wedi bod yn y llong, ac y mae'r llwyth ar y ffordd i'r lan."

Edrychodd y tri mewn distawrwydd i gyfeiriad y goleu. Yna, rhyngddynt ag ef, gwelent ysmotyn bychan tywyll. Diflannai weithiau, pan suddai y cwch rhwng dwy don, a deuai i'r golwg drachefn pan gyrhaeddai'r cwch frig ton arall yn nês i'r lan. Dyna gwch Alun Tomos yn neshau at y lan.

"Yn awr!" meddai Cooke, ac yna aeth ef a'i gyfeillion at lan y dŵr, dan gysgod craig ysgythrog y Clogwyn Mawr. Yno hefyd yr oedd y swyddogion eraill, pob un yn barod i ddal y dynion mentrus a'u heriodd gyhyd.

"Peth rhyfedd," meddai Cooke, "na fuasai rhai o bobl y pentref yma, hefyd. Ond feallai fod yr hen lwynog wedi rhoddi gorchymyn iddynt gadw draw rhag tynnu sylw. Ond dyma'r cwch. Pawb yn barod, bois !"

Ac ar y gair dyma'r cwch i'r golwg dros frig ton, ac yn rhuthro tua'r traeth. Yng nghanol berw'r don yn torri glaniwyd ef yn ddiogel ar y tywod a chyn i Alun Tomos na neb o'i gynorthwywyr gael