Nid rhyfedd ei bod hi a Huw wedi syrthio mewn cariad â'i gilydd. Cydfagesid hwy, ac yr oedd yr un elfen yng ngwaed y ddau. Edrychid arnynt gan Alun Tomos a Gwen Anwyl fel dau oedd i briodi cyn hir. Ac felly yr oedd cwlwm cryf rhwng y ddau deulu.
Yn ddiweddar, modd bynnag, daeth cwmwl i ffurfafen Sian. Dywedwyd eisoes mai adeg yr "Heddwch Bach" oedd hi. Wedi blynyddoedd o frwydro blin, rhoddwyd Napoleon yn y ddalfa yn Elba, a gorffwysodd Prydain am ysbaid. Dyna'r paham yr oedd Capten Gruffydd adref. Wrth grwydro ar hyd yr ardal, gwelodd y milwr Sian, a meddyliodd ynddo ei hun mai hi oedd lodes lana'r deyrnas. Meddyliodd hefyd mai difyr fuasai difyrru dyddiau ei segurdod yn ei chwmni.
Felly, digwyddodd ei chyfarfod dro ar ol tro hyd lwybrau'r fro. Ceisiodd gael scwrs â hi, yn ei ddull ei hun, er fod yn ddigon amlwg nad oedd yr eneth yn hoffi ei weld. Un diwrnod, dywedodd wrtho nad oedd arni ei eisiau, ac nad oedd yn dymuno siarad ag ef o gwbl.
Yr oedd hynny yn syndod aruthr i'r capten, a dechreuodd wneuthur ymchwiliadau. Ni bu yn hir cyn deall sut yr oedd pethau yn sefyll, ac o'r awr honno y deffrôdd ei sêl boethlyd yn erbyn y smyglars. Penderfynodd ddifetha Huw Anwyl, ac ni ofalai lawer pa lwybr a gymerai i gyrraedd ei amcan.