Ymhen diwrnod neu ddau wedi'r digwyddiad a adroddwyd yn y bennod gyntaf, yr oedd Sian a Huw yn eistedd o flaen y tân ym mwthyn Alun Tomos. Yr oedd Alun allan yn rhywle, ac yr oeddynt hwy eu dau yn unig yn y tŷ. Eisteddent yn ddistaw am ysbaid. O'r diwedd, torrodd Sian ar y distawrwydd. "A welaist ti Capten Gruffydd yn ddiweddar, Huw?" ebe hi.
"Naddo," oedd yr ateb. "Fuo fo yn aflonyddu arnat ti eto?"
"O, naddo; ond y mae arnaf ofn ei fod yn bwriadu rhyw ddrwg i ti, Huw,"
"Pa ddrwg, dwad? Mi edrychaf fi ar ei ol, gelli fod yn bur sicr. Beth glywaist ti 'rwan, fy nghariad i?"
Wyddost ti fod y press gang wedi bod wrthi yn Abercynwy?" gofynnai Sian yn ddistaw.
Sythodd Huw yn sydyn. Yr oedd y press gang yn ddychryn gwirioneddol yr adeg honno. Ymwelai un o swyddogion y llynges, gyda nifer o ddynion, â gwahanol ardaloedd, a chipient y dynion mwyaf addawol drwy orfod i wasanaethu y brenin yn groes iawn i'w hewyllys. Rhwygent deuluoedd yn hollol ddidaro, a chan fod eu gwaith yn gyfreithlon, parent fraw ym mha le bynnag y clywid eu bod, yn enwedig mewn ardaloedd lle yr oedd nifer o longwyr neu bysgotwyr ieuainc. Nid rhyfedd i Huw edrych dipyn yn gynhyrfus.