Aeth ymlaen drachefn, a bu agos iddo faglu a syrthio ar draws rhywbeth oedd ar lawr. Safodd yn sydyn a thynnodd yn ol. Ond nid oedd dim yn symud na llais yn torri ar y distawrwydd, a phenderfynodd Huw wybod beth oedd yno.
Penliniodd ar y ffordd ac estynodd ei law. Cyffyrddodd, er ei fraw, a wyneb dyn. Daeth ias o ddychryn drosto drachefn, ond mileiniodd, a thynnodd ei law dros y corff oedd o'i flaen. Ni bu raid iddo wneuthur hynny fwy nag unwaith i ddeall fod pwy bynnag oedd yno yn hollol farw.
Ceisiodd ei weld, ond yr oedd yn dywyll fel y fagddu, ac ni allai weld dim. Deallodd yn unig fod gan y truan ddillad da amdano,—dillad gwahanol i eiddo unrhyw un yn y pentref oddigerth Capten Gruffydd. Ond nid y capten oedd; gwyddai hynny oddiwrth ei faintioli.
Pan yn penlinio fel hyn yn y tywyllwch wrth ochr y corff marw, clywodd Huw ryw sŵn yr ochr arall i'r gwrych. Deallodd fod yno rywun yn symud yn araf ac yn wyliadwrus. Beth ddeuai ohono?
Arhosodd cyn ddistawed â llygoden, gan wrando â'i holl egni am ryw sŵn eto. Ond ymddangosai fod pwy bynnag oedd yno wedi cilio—neu ei fod am aros cyn ddistawed â Huw ei hun.
O'r diwedd mentrodd Huw godi ar ei draed. Camodd dros y corff yn ddistaw, ddistaw, a hanner ymgripiodd, ni wyddai yn iawn sut, hyd at ymyl y