geulan. Yr oedd y môr odditano, a phenderfynodd ei daflu ei hun i lawr i'r traeth yn hytrach na syrthio i ddwylo ei elynion.
Ond ni ddaeth neb ato, ac nid oedd unrhyw arwydd fod neb yn ymyl. Meddyliodd Huw am y peth distaw hwnnw a orweddai y tu ol iddo, ac arswydodd. Ond penderfynodd geisio noddfa, serch hynny.
Aeth ymlaen hyd at ymyl y geulan, ar ei bedwar nes cyrraedd y bwlch. Yna tynnodd dusw o frwyn wrth waelod y llwyn drain, ac wrth wneuthur hynny agorodd dwll, tebyg i enau ffau llwynog. Yr oedd yn ddigon mawr i ddyn fynd iddo wrth orwedd ar ei hyd ac felly yr aeth Huw i mewn. Wedi mynd i gysgod y drain unwaith, yr oedd digon o le rhwng eu bonion iddo droi a thynnu y brwyn yn ol i'w lle i guddio yr agoriad.
Aeth i lawr ar hyd y llwybr cul a garw hwnnw yn y tywyllwch. Arweiniai y llwybr, fel y dywedwyd eisoes, hyd wyneb y geulan, ac i'r anghyfarwydd buasai yn beryglus i'r eithaf, hyd yn oed wrth oleu dydd. Nid oedd yn hollol ddiberygl i'r cyfarwydd yn y tywyllwch. Ond llwyddodd Huw i'w dramwyo yn ddiogel, a chyrhaeddodd enau yr ogof. Yno drachefn aeth drwy oruchwyliaeth gyffelyb gyda'r drain, ac aeth i mewn, drwy'r twll a agorodd, i'r ogof.
Wedi cyrraedd y lloches yma, yr oedd yn lle digon cysurus. Yr oedd y graig yn sych, a chadwai Alun Tomos amryw gasgiau a phlanciau yno. Yr oedd yno