PENNOD V.
YN YR OGOF.
Ni wyddai Sian yn iawn sut y treuliodd y diwrnod hwnnw. Yr oedd gweld cyllell Huw, a chlywed Capten Gruffydd yn dywedyd mai ar gorff y dyn a laddwyd y'i cafwyd wedi ei llethu yn lân.
Ceisiodd gysuro Gwen, mam Huw, ond ofer fu'r cais. Yr oedd calon Sian druan yn rhy drom ei hunan iddi fedru ysgafnhau dim ar faich neb arall.
Diflannodd Alun Tomos i rywle pan ddaeth yr hwyr, a gadawyd Sian ei hun yn y bwthyn. Bu amryw o'i chymdogion ymhlith y pentrefwyr yno yn ystod y dydd yn ei holi ac yn ceisio cael gwybod faint a wyddai hi am y trychineb.
Holent ym mha le yr oedd Huw, a phryd y gwelodd Sian ef ddiweddaf, ond nid oeddynt fawr elwach ar hynny. Nid geneth barablus oedd Sian un adeg, a'r diwrnod hwnnw anodd oedd tynnu gair dros ei gwefus. Dywedodd na wyddai hi ddim am symudiadau Huw, ac o'r diwedd, wedi methu bob ffordd, gadawodd y cymdogion lonydd iddi.
Ni wyddai yr eneth beth i'w wneuthur. Ni chafodd air â'i thad ar hyd y dydd. Arferai bwyso llawer ar ei graffter a'i wroldeb ef, ond yn awr yr oedd rhywbeth dieithr yn ei ymddygiad.