Teimlai ei ferch fel petai rhywbeth wedi dyfod rhyngddynt.
Ni wyddai ym mha le yr oedd ei thad yn awr. Aeth o'r tŷ, gan ddywedyd rhywbeth am lan y môr pan ddechreuodd dywyllu, ac yr oedd yn agos i ddwy awr er hynny. Ni wyddai Sian beth allsai fod yn galw amdano cyhyd.
Yna meddyliodd am Huw yn unig yn yr ogof. Ni allai gredu am foment ei fod yn euog. Gwyddai yn rhy dda am ei natur dyner, garedig, ac agored. Yr oedd trywanu dyn yn y tywyllwch yn beth hollol groes i'w reddfau.
Os felly, meddai yr eneth wrthi ei hun, beth os y mentrai allan o'r ogof gan feddwl fod y press gang wedi mynd heibio? Ni ŵyr efe ddim am y lofruddiaeth yma, ac os y daw allan y mae'n sicr o gwympo i ddwylo ei elynion.
Yr oedd y syniad yn un ofnadwy—yn un dychrynllyd. Beth oedd i'w wneuthur?
Geneth ddewr oedd Sian, geneth wedi arfer wynebu peryglon, er na alwyd arni erioed o'r blaen i wynebu perygl fel hwn. Cynorthwyodd lawer ar ei thad i herio swyddogion y llywodraeth, ac nid oedd arni eu hofn. Nid oedd neb yn Llanwennol yn edrych ar smyglio fel drwg moesol. Hyd yn oed pe lleddid swyddog mewn brwydr deg ar lan y môr, y mae'n debyg na buasent hwy, na Sian yn eu plith, yn edrych ar hynny ond fel damwain anffodus iawn.