Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar hyd wyneb y geulan i'r ogof. Curai ei chalon yn enbyd, canys ni wyddai beth a'i cyfarfyddai ym mhen ei thaith, ond cyrhaeddodd enau y guddfan yn ddiogel.

Yno nid oedd na sŵn na goleuni. Ond gwyddai Sian nad oedd hynny ond peth i'w ddisgwyl, a sibrydodd "Huw" yn isel.

Ni chafodd ateb y tro cyntaf, a dychrynodd drwyddi wrth feddwl y gallai y lle fod yn wag. Ond dywedodd "Huw" drachefn, ac er ei llawenydd cododd cwrr y sach.

"Pwy sydd yna?" meddai llais Huw.

"Y fi—Sian," meddai'r eneth yn isel.

"Sian!" meddai Huw, gan godi mwy ar y sach. "Tyd i mewn, mewn munud. Ond ni ddylet ti ddim dwad yma fel hyn."

Aeth Sian i mewn i'r ogof, a pharatodd Huw i oleuo cannwyll, ond rhwystrodd Sian ef.

"Paid," meddai, " rhag ofn fod rhywun yn gwylio." "Beth," ebe Huw, "ydi'r press o gwmpas o hyd? 'Rydw i wedi hen flino yn yr hen dwll yma, weldi, Sian."

"O Huw!" meddai hithau, "dwn i ddim am y press, ond y mae yna berygl gwaeth o lawer na hynny. Fu neb yma yn deyd wrthat ti?"

Neb yma? Naddo, yr un creadur byw ers pan fu dy dad yma neithiwr. Ond gad i mi oleuo'r lantar yma i mi gael golwg arnat ti, fy nghariad i."