Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fydd yn ddiogelach lawer i mi, Sian," ychwanegai, gan droi at yr eneth.

Gwelodd Sian hynny hefyd, a chydsyniodd. Yna dywedodd—

"Mi ddof yma cyn i ti gychwyn, Huw. Mi fydd yn well i mi fynd yn awr, rhag bod dau ohonom yn mynd gyda'n gilydd. Y mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Cymer ofal, Huw."

"Mi wnaf, fy nghariad i," meddai Huw, gan ei chusanu; "a chymer dithau ofal hefyd. Mi gei weld y daw popeth yn iawn eto."

"Gweddïaf ar Dduw am hynny," meddai hithau wrth fynd allan.

Eisteddodd y ddau ddyn mewn distawrwydd a thywyllwch am ysbaid. Symudodd Alun Tomos yn aflonydd, ond ni ddywedodd Huw yr un gair.

O'r diwedd torrodd Alun Tomos ar y distawrwydd. "Huw," meddai, "pwy laddodd Carrier? " Cododd Huw ei ben.

"Dywedais," meddai, "na wyddwn i a 'dwn i ddim chwaith. Os oes rhywun yn gwybod, y chi ddylai wybod."

"Y fi? Paham?"

"Yr oeddach chi o gwmpas," meddai Huw yn araf. "Welais i neb yn yr hwylfa, a chefais Carrier wedi marw. Dywedsoch na welsoch chi ef, ond ym