Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mha le yr oeddach chi felly? A phaham y gofynnwch i mi pwy a'i lladdodd o?"

Ni atebodd Alun Tomos ar unwaith.

"Dyma'r paham y gofynnais," meddai o'r diwedd; "yr oeddat ti wedi bod yn yr hwylfa—'roeddwn inna yn y cae am y gwrych, a chlywais sŵn dy droed. Gwn dy fod wedi bod gyda'r corff, a gwn mai dy gyllell. di a gafwyd yn ei ymyl. 'Roeddwn i'n meddwl-gan dy fod ti wedi bod am dipyn yn y lle—dy fod ti wedi gweld neu glywed rhywbeth. Neu—neu"

"Neu beth, Alun Tomos?"

"Wel, 'dwn i ddim beth oedd y dyn yma, ond 'roeddat ti yn ymladd am dy fywyd, yn dianc, cofia,—a wyddwn i ddim beth allaset ti ei wneud. Fuaswn i ddim yn beio rhyw lawer arnat ti—ddim yn dy feio di o gwbl, wyddost"

"Alun Tomos," ebe Huw, "dywedais ar fy llw wrth Sian nad oedd wnelo fi fwy â'r peth na'r baban heb ei eni. A pham y mae'n rhaid i chwi dreio taflu'r bai ar fy nghefn i fel hyn o hyd?"

"'Dydw' i ddim yn treio taflu'r bai ar dy gefn di, Huw," meddai Alun Tomos. "'Doeddwn i ddim ond yn gofyn i ti. Mi gaf ddweyd wrth dy fam nad oedd a fynnot ti ddim â'r peth."

Druan o mam!" meddai Huw. "'Does wybod pryd y caf i ei gweld hi eto. Ond, dywedwch un