Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trôdd y Capten ymaith a gwaeddodd Sian: "Nhad, 'nhad!"

Atebwyd hi gan Alun Tomos, ac ymhen munud neu ddau daeth ei thad ac un o longwyr y pentref ati, wedi bod yn chwilio amdani yn hir, mewn pryder mawr.

Treuliodd Sian ddiwrnod blin trannoeth ei chyfarfyddiad damweiniol â mab y Plas yn y coed. Ofnai fod Capten Gruffydd yn gwybod mwy nag a ddywedai, ac ofnai y byddai iddo gadw gwyliadwriaeth fanwl ar lan y môr drwy y dydd.

Nid oedd Sian yn bwriadu mynd i'w gyfarfod. Addawodd yn unig er mwyn cael amser er galluogi Huw i ddianc. Ofnai hefyd fod y Capten wedi drwg-dybio hynny, ac y byddai iddo dorri ei air. Gwyddai Sian nad oedd llawer o ymddiried i'w roddi ar air y Capten.

Ond anghofiodd un peth a allasai fod yn ddefnydd cysur iddi. Os nad oedd llawer o ymddiried i'w roddi ar air Capten Gruffydd, nid oedd llawer i'w ofni oddiwrth ei alluoedd meddyliol ychwaith. Coleddai y milwr ieuanc syniad da iawn amdano ei hun, ac ni amheuodd am funud na ddeuai Sian Tomos i'w gyfarfod fel yr addawodd. Onid oedd yn anrhydedd i eneth dlawd fel hi fod gŵr fel efe yn cymryd sylw ohoni o gwbl? Yr oedd digon o enethod yn barod i dderbyn ei sylw, a phaham yr oedd yn rhaid