Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddolen haearn fawr oedd yn llawr yr ogof ac yna arosodd hyd nes y deuai arwydd oddi isod. Edrychodd allan yn awr ac yn y man a gwelai y dyfroedd tywyll yn ymestyn hyd y gorwel o'i flaen. Yr oedd yr olygfa yn un ddigon pruddglwyfus a thrymaidd ar y goreu, canys nid oes dim trymach a thristach yr olwg arno na môr ystormus wedi nos. Ond i Huw y noswaith honno, er dewred ei galon, yr oedd yr olygfa yn drymllyd neilltuol. Yr oedd yn gadael ei gartref, ei fam, a'i gariad. Yr oedd yn ffoi o flaen cyhuddiad di-sail. Wynebai ar fywyd newydd, ansicr. Gadawsai ei fywioliaeth ar ol, ac ni wyddai sut yr enillai damaid mwyach.

Gofynnodd iddo ei hun paham y gwnai hyn oll. Credai, pe rhoddai ei hun yn nwylo y gyfraith, y deuai yn rhydd yn ebrwydd. Ond credai hefyd na fedrai ymryddhau heb daflu rhywbeth mwy na chysgod amheuaeth ar Alun Tomos. Ac er mwyn Sian, ni allai feddwl am wneuthur hynny.

Fel y syllai allan heibio ochr y sâch a guddiai enau yr ogof, tybiodd weld rhywbeth yn fflachio draw ar yr eigion. Meddyliodd wedyn nad oedd yn ddim ond ton frigwen yn ymdaflu yn uwch na'i chwiorydd. Ond daliodd i edrych, a gwelodd y fflach drachefn. Nid oedd lle i amheuaeth yn awr; goleuni ar fwrdd llong oedd yr hyn a welodd. Deallodd mai arwydd oddiar long John Ambros oedd, a bod yn amser iddo yntau ymbaratoi.