Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o swyddogion yn ffereta hyd y fan yma o hyd. Cadwch oddiar y ffordd nes i chwi gyrraedd y Plas, ac feallai y byddwch yn ddiogel ar noson mor dywyll."

Pe buasai D'Alton wedi cadw yn hollol at gyngor Ambros, fel y bwriadai wneuthur ar y pryd, y mae'n fwy na thebyg y buasai cwrs y stori hon yn dra gwahanol.

Ond yr oedd yn noson ddu, ac yntau yn ddieithr. Llwyddodd i ddringo y llwybr cul a arweiniai hyd wyneb y clogwyn i'r tir uwchben, ac yna, gan wneuthur ei oreu i ddilyn cyfarwyddiadau Ambros, trôdd ar y chwith, a cherddodd yn gyflym i'r cyfeiriad y dywedwyd wrtho ef fod y Plas. Eto yr oedd yn bur ofalus. Gŵr oedd Pierre D'Alton a gymerodd ran flaenllaw yn helyntion gwaedlyd y chwyldroad yn Ffrainc, ond er iddo fod yn foddion i beri i aml un golli ei ben, eto llwyddodd ef ei hun nid yn unig i gadw ei ben ar ei ysgwyddau, ond hefyd i drosglwyddo ei wasanaeth i Napoleon pan gododd y gŵr hwnnw i'r gallu a'r awdurdod uchaf. Bellach yr oedd Napoleon yn rhwym am ryw hyd, ond yr oedd D'Alton eto'n rhydd ac yn brysur. Gwyddai ei fod yn awr ar un o negeseuon peryclaf ei oes, ac yr oedd yn dra gofalus. Eto, yr oedd ei hyder ynddo ei hun yn gyfryw fel na wangalonnodd am funud. Gwyddai beth oedd ganddo i'w wneuthur, ac yr oedd yn benderfynol o'i gwblhau.