Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rhwng Rhyfeloedd.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er nad oedd yn rhoddi llawer o oleuni, rhoddodd ddigon i ddangos i D'Alton fod yno bump neu chwech o ddynion. Ond yr hyn a barodd iddo symud a tharo ei droed ar garreg oedd gweld Capten Gruffydd yn cerdded ar y blaen.

Tynnodd y sŵn a wnaeth sylw'r capten a Watson a safodd y fintai. Edrychai y gweision yn bur bryderus, canys yr oeddynt yn cofio mai dyma'r fan lle llofruddiwyd cyfaill y capten. Tybed fod ei ysbryd yma?

Ond trôdd Watson ei lanter i gyfeiriad y sŵn, ac er ei fawr syndod, gwelodd y Ffrancwr yn edrych arno.

"Helo!" meddai'r swyddog. "Beth yw hyn? Dyma ryw greadur diarth. Beth yw eich enw?" meddai wrth D'Alton.

Gwelodd D'Alton mai ofer oedd ceisio ymguddio bellach. Safodd yn syth, a moes-ymgrymodd o flaen y swyddog synedig.

"Cyfaill i Capten Gruffydd, syr," meddai yn siriol. Yr oedd y gair yn ddigon i'r dynion oedd y tu ol. Deallant ddigon o Saesneg i wybod ystyr yr hyn a ddywedai y Ffrancwr—ac yr oeddynt oll yn sicr iawn yn eu meddyliau mai cyfaill Capten Gruffydd a laddwyd oedd wedi dyfod yn ol. Nid oeddynt yn ddynion ofnus yn wyneb pethau y byd hwn, ond pwy a ddisgwyliai i wŷr pechadurus wynebu ysbryd?