"Diolch i chwi, fy nghyfaill," meddai D'Alton. "Yr wyf innau erbyn hyn yn dechreu teimlo braidd yn lluddedig."
Trôdd y tri i fyny'r hwylfa tua'r pentref. Ni chymerai y ddau foneddwr unrhyw sylw o Watson. Yr oedd y swyddog yn methu a deall yn iawn sut yr oedd y Capten wedi llwyddo i anghofio Huw Anwyl cyn llwyred. Ni ynganodd yr un gair amdano, er ei fod yn ymddangos, oddeutu hanner awr yn ol, yn llawn tân am ei ddal. Nid oedd waeth gan Watson, modd bynnag, am y tro a gymerodd pethau, canys hiraethai am ei wely, ac nid oedd dal dynion y drwgdybid eu bod yn llofruddion yn unrhyw ran o'i ddyletswyddau ef. Cerddasant tua'r pentref mewn distawrwydd, ac wrth ddrws ei dŷ dywedodd Watson "Nos d'awch."
"Nos d'awch, Watson," meddai Capten Gruffydd. 'Diolch i chi am eich trafferth. Galwaf heibio yn y bore." Yna aeth y ddau ymlaen ar hyd y ffordd dywyll.
Ni ddywedodd y naill na'r llall air am gryn ysbaid. Cerddasant yn ddistaw nes cyrraedd llidiart y parc. Yna aethant ar hyd y ffordd oedd yn arwain at y Plas. Tyfai coed mawr, henafol o bobtu'r ffordd, ac yr oedd y lle yn hollol dywyll.
O'r diwedd torrodd D'Alton ar y distawrwydd. Siaradai Ffrangeg yn awr.