"Nac ydwyf—ddim yn gwybod i sicrwydd. Ond y mae rhoddi dau a dau wrth ei gilydd yn gymorth i ddyn wneuthur pedwar, wyddost. Ac y mae gennyf beth arall hefyd. Yr oedd gen i Ffrancwr ar fwrdd y scwner yma, ac mi laniodd hwnnw yn Llanwennol heno. Yr wyf yn digwydd gwybod ei neges o—na hidia sut—a mi wn na bydd yn dda iawn gan dy gyfaill Capten Gruffydd ei weld o. Paid a phryderu, fy marn i ydyw y daw popeth yn iawn eto. Ond y mae'n rhaid i mi gael amser i ystyried pethau ac i feddwl beth i'w wneud."
"Ond," meddai Huw, "pwy oedd y llofrudd yn eich meddwl chi?"
Trôdd John Ambros i edrych ar Huw, gyda rhyw hanner gwên ar ei wyneb.
"'Dwyt ti ddim wedi meddwl am hynny eto?" meddai.
"Naddo."
"Ond Capten Gruffydd, wrth gwrs," meddai John Ambros.
Edrychodd Huw mewn syndod ar John Ambros. Credai am foment fod y llongwr o'i go', ond yna daeth i'w feddwl lu o bethau a ystyriodd ef, pan ddigwyddasant, yn ddigon dibwys. Ond yn awr yr oedd ystyr newydd i bob un ohonynt. Credai Huw ei fod yn gweld goleuni.