y goleu. Edrychodd Huw gyda chryn ddiddordeb arno. Ymddangosai iddo ef fod yr annisgwyliadwy yn digwydd o hyd yn awr, ac ni ryfeddai at ddim. Credai ei fod yn ddiogel oddiwrth ei erlidwyr, os oedd ganddo erlidwyr hefyd, a chan fod Ambros wedi rhoddi gobaith iddo y gallai ei glirio ei hun yn llwyr yn y man, yr oedd yn teimlo ei galon yn llawer iawn ysgafnach. Yr oedd yn barod i fwynhau dipyn ar y bywyd newydd.
Scwner ahoi! "
"Helo," meddai John Ambros, "dyna lais o'r cwch. Mi treiwn o yn Gymraeg." Yna gosododd ei law wrth ei geg a gwaeddodd, " Pwy sydd yn y cwch yna?"
Daeth yr ateb yn ol mewn iaith na ddeallai Huw ddim ohoni.
"Ffrancwr eto, myn cebyst!" meddai John Ambros. Ydi'r môr yma yn heidio efo Ffrancod mewn cychod deydwch?
Yna gwaeddodd yn Ffrangeg, "Oes arnoch chi eisiau dyfod ar fwrdd y llong?"
"Oes," meddai'r llais, a sylwodd Huw yn awr ei fod yn bur wannaidd, megis llais dyn bron a diffygio.
"O'r goreu," meddai John Ambros, a chyn pen dau funud yr oedd y scwner wrth ymyl y cwch, a gwelwyd dyn yn ceisio codi ar ei draed ynddo, a bron a chwympo wrth geisio.