Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1500 a.d. Pa beth oedd y syniad cyffredin am y greadigaeth yr adeg honno ac am safle dyn ynddi?

Credid bod y ddaear yn fflat ac wedi ei gosod yn ganolbwynt i'r cread. O amgylch y ddaear, mewn cylchau perffaith, ymlwybrai'r haul, y lleuad a'r planedau, a hefyd y ffurfafen ynghyd a'i theulu lluosog o sêr.

Yn ôl diwinyddiaeth yr oes honno, i fyny " yn yr awyr " yr oedd bro brydferth a elwid y Nefoedd— paradwys i'r da. Islaw y ddaear yr oedd bro arall— Uffern, "lle o boen i gosbi pechod." Mewn gair (fel y dywed y Deon Inge), adeilad o dair llofft, o dri llawr, oedd y cread: y Nefoedd, y Ddaear, ac Uffern. Credid hefyd fod yr haul, y lleuad a'r planedau, yn cael eu harwain yn barhaus gan allu dwyfol yn eu cylchdro o amgylch y ddaear. I'w tyb hwy, yr oedd ymyrraeth wyrthiol â symudiadau'r cyrff wybrennol yn beth eithaf posibl, fel y gellir gweled oddi wrth yr hanesion Beiblaidd am Josua a safiad yr haul: "A'r haul a arhosodd, a'r lleuad a safodd, nes i'r genedl dial ar eu gelynion " (Jos. x, 13). Hefyd, yr hanes tlws am y brenin Hesecïa, a dychweliad cysgod yr haul ddeg o raddau ar y deial (2 Bren. xx, 11).

Eto, credid bod y miloedd gwahanol rywogaethau o anifeiliaid a llysiau wedi eu creu yn hollol fel y maent yn awr, ac yr oedd yr esgob Usher mor sicr o'i bwnc (dri chan mlynedd yn ôl) fel y cyhoeddodd fod dyn wedi ei greu yn y flwyddyn 4004 c.c., ac am naw o'r gloch yn y bore!

Yna, yn y flwyddyn 1609, wele Galileo'n troi ei ddyfais newydd, y telesgôp, tua'r nen, a'r foment