Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honno fe ddiorseddwyd y ddaear o'i safle dybiedig fel canolbwynt y cread, a dechreuodd "gwyddoniaeth." O ddyddiau Galileo fe ehanga gwyddoniaeth derfyngylch ein gwybodaeth, gan ddatguddio i ni Greadigaeth Newydd," fwy mawreddog, fwy rhyfeddol, a llawer mwy urddasol na thair llofft yr hen ddiwinyddiaeth. A chan fod cysylltiad agos rhwng ein syniadau am y cread a'n syniad am Dduw, rhaid i ni, mi gredaf, gytuno â'r hyn a ddywed y gwyddonydd enwog, yr Athro J. Arthur Thomson:

Dywedwn yn bendant mai un gwasanaeth mawr y mae gwyddoniaeth wedi ei wneuthur i ddyn yw rhoddi iddo syniad mwy urddasol am Dduw.

Ond cyn ymdrin gyda pheth manylder â'r syniadau newydd am y cread, gadawer i ni roi braslun byr o'r fframwaith newydd sydd wedi ei ddatguddio i ni gan Wyddoniaeth a'i gymharu â'r hen fframwaith a ddisgrifiwyd uchod.

Nid yw'r ddaear mwyach yn ganolbwynt y cread. I'r gwrthwyneb, planed fach, ddinod, ydyw, yn cylchdroi o amgylch haul sydd filiwn o weithiau'n fwy na hi. Cedwir hi yn ei chylch nid drwy weithrediad dwyfol uniongyrchol, ond gan rym disgyrchiant.

Nid yw'r haul eto ond aelod di-sylw o deulu o ryw 2,000,000,000 o heuliau eraill, a'r cwbl yn ffurfio sistem fawreddog (y Sistem Alactig) a ganfyddir ar noson glir yn croesi'r wybren-y "Llwybr Llaethog." Ac nid yw'n hollol amhosibl bod amryw o'r miliynau hyn o heuliau yn berchen ar blanedau tebyg i'n