Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mewn gair, er amser Darwin, ni a gredwn na chrëwyd dyn mewn un act ar lun a delw Duw, ond yn hytrach mai coron a gogoniant cwrs mawr ddatblygiad yw, ac na raid cywilyddio wrth ddeall bod hynafiaid agos yr hil ddynol yn greaduriaid y goedwig a heb fod yn annhebyg i epa.

Yn olaf, yn lle credu gyda'r hen ddiwinyddion fod diwedd y byd a dydd y farn yn agos, dysgir ni yn awr y gallwn edrych ymlaen at barhad bywyd dyn ar y ddaear am filiynau lawer o flynyddoedd eto, gyda phosibilrwydd o gynnydd materol, meddyliol ac ysbrydol ymhell y tu hwnt i'n breuddwydion. Ond, yn ddi-os, fe ddaw'r diwedd, oblegid y mae'r haul yn graddol oeri, ac fe ddaw'r dydd pan na fydd ei wres yn ddigon, mwyach, i gynnal bywyd dyn ar y ddaear.

Dyna, yn fyr, yw'r ffrâm newydd a ddatguddir gan wyddoniaeth y dyddiau hyn, ac oddi mewn i'r hon y cais ein harweinwyr crefyddol heddiw ffitio'n daliadau diwinyddol a chrefyddol.

Yn fan hon, nid amhriodol fydd gair ar derfynau gwyddoniaeth. Nid oes gan wyddoniaeth ei hun ddim i'w ddywedyd am ffeithiau mawr a sylfaenol crefydd. Ni all gwyddoniaeth brofi'r bod o Dduw. Ac y mae'r un mor wir na all ei wadu. O'r tri gwerth sylfaenol— gwirionedd, prydferthwch a daioni—nid yw gwyddoniaeth yn gofalu ond am un, sef gwirionedd. Nid yw pethau ysbrydol ac esthetig yn rhan o fusnes gwyddoniaeth o gwbl.

Fe gododd yr ymrafaelio anhapus yn y gorffennol rhwng y gwyddonwyr a'r diwinyddion oherwydd bod