Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei siwrnai faith cyn i'r dyn cyntaf ymddangos ar y ddaear.

Ond er mor enfawr yw'r gyfundrefn sêr a adnabyddir fel y Llwybr Llaethog, i'r hwn y perthyn ein haul bach ni ynghyd a'i deulu, ni chynnwys hyn mo'r holl gread. Oblegid fe ddengys y telesgôp cryfaf i ni filoedd, yn wir, filiynau, o wrthrychau golau eraill yn y ffurfafen, a elwir nifylau (nebulae) ac fe wyddom erbyn hyn fod pob un o'r rhai hyn hefyd yn gyfundrefn sêr gyffelyb i'n cyfundrefn "leol" ni, a phob un ohonynt yn cynnwys miliynau o heuliau, neu ddigon o ddefnyddiau i ffurfio miliynau o heuliau yn nhreigliad yr oesau. Bernir bod rhai o'r "ynys-greadigaethau" hyn mor bell nes bod eu goleuni'n cymryd can miliwn o flynyddoedd i'n cyrraedd [Gwêl yr wyneb-ddarlun a'r darluniau eraill o nifylau.]

Fe orwedd y rhan fwyaf o'r cyfanfyd y tu allan a thu draw i'n cyfundrefn sêr ni. A yw'r cread felly'n anfeidrol ddiderfyn? Nac ydyw, medd damcaniaeth Einstein. Sut bynnag am hynny, y mae'n ddigon mawr i beri i ni blygu'n pen mewn gwylder a pharchedig ofn, a'n gorfodi i ddywedyd gyda'r Salmydd:

Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist; pa beth yw dyn i ti i'w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef?

Trown am foment yn awr i'r cyfeiriad gwrthgyferbyniol—i gyfeiriad y bychan. Mor gain, mor gymhleth yw'r cread ym manylion ei adeiladwaith a'i gyfansoddiad! Dywedwyd yn y penodau o'r blaen fod mater yn gyfansoddedig o fân ronynnau a elwir atomau, a bod