Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddeutu 90 o wahanol fathau ohonynt, megis hydrogen, oxygen, nitrogen, carbon, calcium, haearn, silicon ac ati ac o'r atomau hyn y mae pob peth, byw a marw wedi eu hadeiladu.

Arhosed y darllenydd am foment uwchben y ffaith fod un gronyn bychan o dywod yn cynnwys 1,000,000,000,000,000 o atomau. Mor fychan, gan hynny, yw'r atom! Ond nid yr atomau yw r gronynnau lleiaf yn y greadigaeth, oblegid fe ddengys gwyddoniaeth ddiweddar fod yr holl atomau wedi eu hadeiladu o ronynnau mân o drydan a elwir protonau ac electronau, gronynnau sydd gymaint yn llai nag atom ag yw pryfyn o'i gymharu ag adeilad eang. Ac mor rhyfeddol yw priodoleddau hanfodol y gronynnau trydan hyn, priddfeini'r greadigaeth faterol! Credir eu bod yn difodi ei gilydd yn ffwrnes eiriasboeth yr haul a'r sêr, a'u hynni cynhenid yn troi'n belydriad gwres a goleuni, ac mai oherwydd y ffynhonnell annisgwyliadwy hon y pery'r sêr (a'n haul ni yn eu plith) i dywynnu'n siriol am oesau sydd bron yn ddiderfyn, yn lle oeri a marw ymhen ychydig filiynau o flynyddoedd fel y proffwydodd yr Arglwydd Kelvin cyn i'r pethau rhyfedd hyn gael eu darganfod.

Pan nad yw r gwres yn rhy danbaid, fe ddaw'r electronau a'r protonau at ei gilydd i ffurfio'r atomau materol fel y dywedwyd eisoes, ac ymbrioda'r rhai hyn wedyn i ffurfio r amrywiol sylweddau—pethau cyffredin ein bywyd beunyddiol—dŵr ac awyr, carreg a mŵn. Ac, o dan yr amgylchiadau priodol (beth bynnag fo r rheini) fe ddigwydd peth rhyfeddol a