Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newydd yn hanes rhai o'r sylweddau hyn. Enillant y gallu i dyfu ac atgenhedlu eu rhyw.

Wele'r dirgelwch mawr—bywyd—wedi ymddangos. Sut yn hollol y dechreuodd bywyd ar y ddaear nid yw gwyddoniaeth wedi gallu ateb. Hyd yn hyn rhaid dywedyd na chyfyd bywyd ond o'r lle y mae bywyd eisoes. Gwelir felly fod bwlch pwysig yn rhediad cwrs mawr datblygiad, a defnyddir hyn yn aml fel prawf o'r bod o Dduw—dwyfol ymyriad yn anadlu "anadl einioes" i mewn i ffroenau mater marw. Ceir yr un syniad wedyn yn y bennod odidog honno yn llyfr y proffwyd Eseciel—dameg yr esgyrn sychion:

O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw.

Ond gyda phob gwyleidd-dra, dymunwn ddywedyd nad doeth bod yn rhy bendant a dogmatig hyd yn oed ynglŷn â'r broblem fawr hon. Ni byddai'n ergyd i'm ffydd i o gwbl pe llwyddai dyn ryw ddiwrnod i gynhyrchu bywyd oddi mewn i esgyrn sychion mater marw. Onid yw'n bryd rhoddi heibio gwneuthur Duw'n un i gau'r bylchau yn ein cyfundrefn feddyliol? Hwyrach y teimla rhai o'm darllenwyr fod hyn yn darostwng bywyd ac enaid i lefel gweithrediadau peiriannol noeth. Gwadaf hyn gan ofyn: Onid yw mor gyfreithlon ysbrydoli'r peiriannol ag yw peirianoli'r ysbrydol?

Yr agwedd nesaf ar y cread a bwysleisiwn yw ei drefnusrwydd a'i unoliaeth. Rhoddwyd i ni'r cipolwg cyntaf ar hyn pan ddarganfu Newton ddeddf disgyrchant cyffredin; hynny yw, mai'r un grym a bair i afal